Rhaglen anemia cyn-weithredol
Datblygodd ffrwd waith y grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol (BHNOG) lwybr cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021, i adnabod, trin a rheoli cleifion sydd wedi cael eu darganfod fel bod ag anemia amdriniaethol. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r llwybr cenedlaethol o fewn Byrddau Iechyd, bu BHNOG yn llwyddiannus mewn derbyn cyllid ar gyfer rhaglen weithredu 2 flynedd gan Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Y canlyniadau a fwriedir ar gyfer y rhaglen yw gwreiddio Rheoli Gwaed Cleifion (PBM) yn y lleoliad cyn llawdriniaeth i sicrhau bod cleifion yn cael eu hoptimeiddio'n deg. Bydd hyn yn lleihau trallwysiad y gellir ei osgoi oherwydd anemia, yn lleihau'r amser mae cleifion yn gorfod aros yn yr ysbyty, ac yn gwella canlyniadau clinigol i gleifion. Mae'r Rhaglen yn cael ei harwain a'i rheoli gan Wasanaeth Gwaed Cymru.