Cynhadledd Flynyddol BHNOG 2024
Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol BHNOG eleni 'Y Cynllun Iechyd Gwaed: Gwneud Iddo Weithio i Chi' yn rhithiol ar ddydd Llun 11 Mawrth.
Cafodd y gynhadledd ei hagor gan Syr Frank Atherton, ac roedd yn arddangos y gwaith arloesol sydd yn cael ei wneud i gyflawni nodau strategol y Cynllun Iechyd Gwaed.
Darparwyd amrywiaeth gyffrous o gyflwyniadau a phosteri gan arbenigwyr pwnc yn y meysydd Rheoli Gwaed Cleifion (PBM), Addysg a Hyfforddiant; Gwella Gwasanaethau; Ansawdd, Rheoleiddio ac Archwilio. Hoffem longyfarch enillydd cyffredinol y cyflwyniad poster, Debra Evans, nyrs glinigol cardiothorasig o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Gellir dod o hyd i gynnwys a chyflwyniadau o'r gynhadledd yn yr adran isod.