Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol

Sefydlwyd y Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol (BHNOG) yn 2017 i oruchwylio'r gwaith o weithredu'r Cynllun Iechyd Gwaed.

Yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Gwasanaeth Gwaed Cymru, Cynrychiolwyr Trallwysiad o bob bwrdd iechyd (HB) yng Nghymru, ynghyd ag Arbenigwyr Pwnc (SMEs), mae'r BHNOG yn darparu rôl oruchwylio i gyflawni arferion trallwysiad drwy ddull arwain system gydweithredol.

Yn 2020, gwnaed adolygiad o Gylch Gorchwyl y BHNOG i gefnogi dull strategol 'Unwaith i Gymru' o ymdrin ag arferion trallwysiad. Grymuswyd byrddau iechyd (HBs) i hyrwyddo defnydd diogel a phriodol o waed drwy ddefnyddio egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus a Rheoli Gwaed Cleifion.

Er mwyn cyd-fynd ag amcanion y Cynllun Iechyd Gwaed, mae'r Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol wedi nodi blaenoriaethau allweddol a nodir o fewn llif gwaith, ac mae gan bob un ohonynt arweinwyr clinigol sy'n gyfrifol am oruchwylio gwaith y grŵp.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y botymau isod: