Pecyn Cymorth Ffactorau Dynol

Mae'r term 'Ffactorau Dynol' yn ymwneud â sut mae pobl yn rhyngweithio gyda phrosesau, systemau, offer a'r amgylchedd. Mae cymhwyso egwyddorion Ffactorau Dynol i ymchwiliadau i ddigwyddiadau yn allweddol i ddatblygu diwylliant diogelwch cadarnhaol, drwy archwilio systemau ac adnabod elfennau sy'n cyfrannu at wallau, ac nid canolbwyntio ar yr unigolyn/unigolion dan sylw yn unig.

Cafodd pecyn cymorth ffactorau dynol BHNOG ei ddatblygu mewn ymateb i'r argymhellion a amlinellwyd yn Adroddiad Blynyddol Peryglon Difrifol Trallwyso Gwaed (SHOT() 2018. Yn dilyn adolygiad dilynol o becyn cymorth BHNOG, cydnabuwyd bod Pecyn Cymorth Defnyddio Ffactorau Dynol SHOT i Ymchwilio i Ddigwyddiadau (HFIT) yn cael ei ddefnyddio'n fwy aml gan aelodau BHNOG, felly cytunwyd i dynnu pecyn cymorth BHNOG yn ôl ac yn lle hynny, cyfeirio defnyddwyr at adnoddau ffactorau dynol SHOT a HFIT (dolen isod).

Cliciwch Yma

Fel rhan o'r adolygiad hwn, barnwyd bod ffurflen ymchwilio Gwaed Anghywir mewn Tiwbiau (WBIT) BHNOG—a oedd wedi'i chynnwys o'r blaen ym mhecyn cymorth BHNOG, yn well na'r fersiwn SHOT ac felly, mae hi wedi cael ei chadw, ei hadolygu a'i diweddaru. Mae’r ffurflen ymchwilio WBIT ddiwygiedig (fersiwn 2.0) ar gael drwy'r ddolen isod ar dudalennau SharePoint BHT.

Cliciwch Yma