Rhaglenni Addysg Cenedlaethol

Rhaglen Hyfforddi Trallwyso Uwch Gynorthwyydd Dan Hyfforddiant (SSA)

Darperir rhaglen addysg a hyfforddiant trallwyso ar gyfer pob myfyriwr meddygol blwyddyn olaf yng Nghymru fel rhan o'u dyfarniad Uwch Gynorthwyydd Dan Hyfforddiant (SSA), sef elfen grynodol o hyfforddiant meddygol israddedig i'w paratoi ar gyfer ymarfer.

Mae'r ymarferwyr trallwyso ledled Cymru wedi cyflwyno'r rhaglen hon ers dros 10 mlynedd. Mae'r rhaglen wedi rhoi'r wybodaeth i ymarferwyr clinigol am elfennau hanfodol o'r broses drallwyso. Mae hyn yn cynnwys, egwyddorion diogelwch wrth drallwyso, deall a gwneud y penderfyniad i drallwyso ac awdurdodi trallwyso, cymryd sampl cyn trallwyso, ymarfer labordy trallwyso mewn ysbytai, a rheoli adwaith trallwyso/digwyddiad niweidiol.

Mae rhagor o wybodaeth am SSA ar gael yma

Gellir dod o hyd i adroddiad cryno SSA 2023 yma. (Fersiwn Cymraeg hyd nes)


Hyfforddiant Trallwyso Gwaed (BTT)

Cyfres o gyrsiau eDdysgu yw Hyfforddiant Trallwyso Gwaed sydd wedi eu creu er mwyn sicrhau bod holl weithwyr gofal iechyd yn gallu ymgymryd â'u rôl yn y broses drallwyso'n ddiogel.

Bellach, dyma’r ddarpariaeth genedlaethol ar gyfer eDdysgu sy’n gysylltiedig â thrallwyso yng Nghymru.

Gellir cael mynediad i holl gyrsiau BTT ar ESR a thrwy fynd i Learning@Wales Cliciwch yma am wybodaeth cwrs

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau yma cysylltwch â thîm trallwysiad eich ysbyty.


Awdurdodiad Annibynnol ar gyfer Trallwyso Cydrannau Gwaed (IABT)

Mae Awdurdodiad Annibynnol ar gyfer Trallwyso Cydrannau Gwaed (IABT) - Awdurdodi Trallwyso Cyfansoddion Gwaed yn Anfeddygol (NABT) yn gynt yn rhaglen addysgol i alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol anfeddygol wneud y penderfyniad yn annibynnol i drallwyso a chwblhau'r broses awdurdodi.

Datblygwyd y rhaglen hon i wella gofal cleifion ac mae'n cyd-fynd ag rheoli gwaed cleifion a egwyddorion gofal iechyd darbodus 

Cliciwch yma am y polisi IABT

 


Pecyn hyfforddi trallwyso gwaed ar gyfer myfyrwyr nyrsio cyn-gofrestru (Cymru)

Mae'r Grŵp Ymarferwyr Trallwyso Cymru Gyfan a’r Tîm Iechyd Gwaed wedi cydweithio â Phrifysgolion ar draws Cymru i gynhyrchu pecyn hyfforddi i fodloni dogfen Nyrs y Dyfodol 2018 y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth: Standards of proficiency for registered nurses management and monitoring of blood component transfusions section of Annexe B. I weld y pecynnau, cliciwch ar y dolenni isod: