Rheoli Gwaed Cleifion

Mae Rheoli Gwaed Cleifion yn ddull amlddisgyblaethol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o wneud y gorau o ofal cleifion y gallai fod angen trallwysiad arnynt. Mae'n gorwedd ar dair colofn: diagnosis a thriniaeth anemia (yn enwedig anemia diffyg haearn), lleihau colli gwaed gan gynnwys mesurau fel defnyddio achub celloedd a chyffuriau gwrth-ffibrinolytig i leihau gwaedu yn ogystal ag osgoi trallwysiadau diangen a lle y bo'n briodol, defnyddio rhaglen drallwyso gyfyngol. Mae canlyniadau Rheoli Gwaed Cleifion yn lleihau'r risg o ddigwyddiadau andwyol, yn lleihau costau gofal iechyd ac yn cefnogi'r cyflenwad gwaed. Yn ogystal â bod yn elfen sylfaenol o arfer clinigol da mewn trallwysiad, mae'n chwarae rhan allweddol mewn gofal iechyd sylfaenol. Mae'r dull amlddisgyblaethol hwn yn cynnwys meddygon teulu, hematolegwyr, anesthetyddion, arbenigwyr gofal dwys, llawfeddygon ac arbenigeddau clinigol eraill.

Mae gwaith y Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol yn cefnogi egwyddorion Rheoli Gwaed Cleifion a Gofal Iechyd Darbodus ac mae wedi alinio ei bedair ffrwd waith allweddol yn ogystal â'i grwpiau gwaith i gyflawni'r rhain.