Celloedd Coch O D Negyddol

Y Ffrwd Waith

Mae'r Defnydd Priodol o Gelloedd Coch O D Negyddol yn cwmpasu dau nod strategol Cynllun Iechyd Gwaed GIG Cymru:

  • Defnyddio tystiolaeth a data i lywio cynllunio, gwella arfer a lleihau amrywioldeb 
  • Rhoi diogelwch ac ansawdd wrth wraidd gofal gan leihau defnydd amhriodol a chefnogi arloesedd

Er bod y defnydd o gelloedd gwaed coch yn gyffredinol wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae celloedd coch grŵp O D Negyddol yn aml mewn galw uwch nag unrhyw grŵp arall, gan fod hyn yn gyffredinol yn cael ei weld fel y dewis ar gyfer defnydd mewn argyfwng/cleifion anhysbys. Mae hyn yn golygu bod darparu cyflenwad sefydlog o O D Negyddol i ysbytai yn gallu bod yn heriol.

Mae'r ffrwd waith O D Negyddol yn canolbwyntio ar optimeiddio rheoli stoc O D Negyddol, gan sicrhau rheolaeth weithredol o gyflenwad a gwastraffu a lleihau'r angen am ddefnydd 'argyfwng' o O D Negyddol. Maent hefyd yn canolbwyntio ar addysg defnyddwyr clinigol O D Negyddol i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cleifion hynny sydd ei angen fwyaf.

Mae ffrwd waith O D Negyddol wedi ei diffinio fel ffrwd waith allweddol ar gyfer y Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol ac arweinydd y ffrwd waith yw Dr Andy Goringe, Haematolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Mae adnoddau sy'n cefnogi gweithgaredd y ffrwd waith hon i'w gweld isod.

Mae canllawiau pellach ar ddefnyddio celloedd coch O D Negyddol i'w gweld yng  Cynllun Prinder Celloedd Coch GIG Cymru