
Cadwch y Dyddiad – Cynhadledd BHNOG 2026!
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Cynhadledd BHNOG 2026 yn cael ei chynnal ddydd Mawrth, 23 Mehefin, yng Ngwesty'r Vale Resort.
Dewch i ymuno â ni mewn person am ddiwrnod deinamig o fewnwelediad, cydweithio a thrafodaeth flaengar wrth i ni archwilio:
- Sut mae canfyddiadau ac argymhellion yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig (IBI) yn cyd-fynd â Chynllun Iechyd Gwaed GIG Cymru
- Yr effaith ar gleifion, staff a gwasanaethau
- Yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu hyd yn hyn - a sut rydyn ni'n symud yn hyderus i'r dyfodol
Yn dilyn eich adborth ar gynhadledd rithwir 2024, rydym yn dod â phawb yn ôl at ei gilydd wyneb yn wyneb am brofiad diddorol a rhyngweithiol dros ben.
Marciwch eich calendrau a chofrestrwch eich diddordeb gan ddefnyddio'r cod QR neu yr dolen islaw
Mwy o fanylion i ddod yn fuan!
Ar agor i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (clinigwyr, nyrsys, rheolwyr, ansawdd, labordai neu mewn rôl gefnogol) sy'n adlewyrchu pwysigrwydd dull system gyfan ar gyfer sicrhau iechyd gwaed diogel ac effeithiol.
Cliciwch yma i gofrestru






