Cynhadledd y grŵp Goruchwylio Iechyd Gwead Cenedlaethol
‘'Yr ymchwiliad I waed heintiedig: Troi'r polisi'n ymarfer'
Ddydd Mawrth 23 Mehefin, daeth cydweithwyr o bob cwr o'r DU ynghyd ar gyfer Cynhadledd BHNOG 2026, a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Vale yn Ne Cymru.
Drwy gydol y dydd, archwiliodd siaradwyr a mynychwyr beth mae'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn ei olygu yn ymarferol, sut rydym yn gwella diogelwch ac ansawdd, a sut rydym yn cynllunio ar gyfer dyfodol mwy gwydn. Clywsom fewnwelediadau ar draws diogelwch cleifion, digidol, addysg a Rheoli Gwaed Cleifion, i gyd wedi'u cysylltu gan nod cyffredin: ymarfer trallwyso mwy diogel.
Mae rhai myfyrdodau o'r diwrnod yn cynnwys:
Dr Shruthi Narayan, Cyfarwyddwr Meddygol, Peryglon Difrifol o ran Trallwyso:
"Mae wedi bod yn ddiwrnod gwych yn llawn sgyrsiau arbennig yn arddangos yr holl waith sydd wedi'i wneud i alluogi rhoi ar waith argymhellion Yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig (IBI). Yr hyn a fwynheais yn fawr oedd dysgu am yr holl ffrydiau gwaith gwahanol a'r cynnydd sydd wedi'i gyflawni hyd yn hyn. Mae hyn wir yn rhoi llwyfan da inni rannu'r dysgu, cydweithio ar wahanol ffrydiau gwaith a rhoi'r dysgu ar waith hefyd ar draws y DU a lleihau amrywiadau."
Dr Brian Tehan, Cadeirydd y Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol, Anesthetydd Ymgynghorol, BIPBC:
"Mae'r gynhadledd hon wedi bod yn bleser ac yn addysgiadol. Rydyn ni'n clywed llawer iawn am y gwaith sy'n cael ei wneud gan BHNOG, ond mae heddiw wedi bod yn gyfle arbennig i roi cyfle i bobl sefyll i fyny, dweud mwy am yr hyn maen nhw'n ei wneud, ac ymhelaethu'n fawr ar eu gwaith. Mae hyn yn helpu pawb i ddeall sut mae'r gwaith hwn yn ffitio i mewn i'r cynllun ehangach, a pha mor eang y caiff ei werthfawrogi. Rwy'n falch o'r holl waith sydd wedi'i wneud gan BHNOG, ac yn falch o allu gweithio gyda phobl o'r fath sy'n gwneud y gwaith hwn."
Diolch i bawb a fynychodd, boed yn yr ystafell neu'n ymuno ar-lein, a diolch arbennig i'n siaradwyr am rannu eu harbenigedd.







