Addysg ac Adnoddau

Strategaeth Addysg

Mae'r Cynllun Iechyd Gwaed, ac yn fwy diweddar, canfyddiadau'r Ymchwiliad i Waed Heintiedig, yn cydnabod pwysigrwydd addysg trallwyso er mwyn sicrhau arfer trallwyso diogel. I gefnogi hyn, sefydlwyd Grŵp Strategaeth Addysg (ESG) BHNOG, a fydd yn darparu goruchwyliaeth a chyfeiriad i sicrhau dull cydlynol a safonol o ddarparu addysg a hyfforddiant trallwyso ar draws Cymru, fel y nodir yn ei strategaeth (dolen isod).

Mae Strategaeth Addysg BHNOG yn hyrwyddo darpariaeth addysg trallwyso safonol ar draws y sbectrwm llawn i weithwyr gofal iechyd yng Nghymru. Bydd hyn yn galluogi darparu gofal o ansawdd uchel, gosod diogelwch yn flaenoriaeth mewn arferion trallwyso, a gwella’r ffordd rydym yn rheoli gwaed cleifion.

 

Strategaeth Addysg Trallwyso 2025-2028 Grŵp Strategaeth Addysg - Cylch Gorchwyl.

Addysg a Gymeradwywyd gan y BHNOG