Parhad Busnes

Parhad Busnes

Datblygwyd Cynllun Prinder Celloedd Coch GIG Cymru 2024 gan Wasanaeth Gwaed Cymru, mewn cydweithrediad â Thimau Trallwyso Ysbytai/Pwyllgorau, Arweinwyr Cynllunio Brys, Cyfarwyddwyr Meddygol a'r Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol (BHNOG).

Mae'r cynllun yn amlinellu cyfrifoldebau GIG Cymru mewn ymateb i brinder gwirioneddol neu bosibl o gelloedd coch alogenëig.

Mae gwaed yn adnodd prin, sydd angen cael ei reoli’n weithredol i gynnal cyflenwad diogel a digonol. Cyfeirir at hyn fel y gadwyn cyflenwi gwaed, ac mae'n ystyried gweithredoedd yr holl randdeiliaid allweddol, o'r amser mae'r gwaed yn gadael braich y rhoddwr, nes iddo gael ei drosglwyddo i'r claf.

Mae'r Cynllun yn eirioli egwyddorion Rheoli Gwaed Cleifion a Gofal Iechyd Darbodus i hyrwyddo'r defnydd priodol o waed a chefnogi'r gadwyn gyflenwi. Fodd bynnag, mae yna achosion lle nad yw hyn yn gallu lliniaru yn erbyn prinder gwaed, ac mae rhybudd yn cael ei roi i GIG Cymru i roi gwybod am brinder posibl.

Mae pedwar cam rhybudd, yn dibynnu ar lefel stoc celloedd coch GGC: Gwyrdd, Bron yn Felyn, Melyn a Choch. Bydd gweithredoedd allweddol yn cael eu diffinio ar bob un o'r camau.

Yn ogystal â'r Cynllun, mae BHNOG wedi sefydlu Grŵp Prinder Gwaed BHNOG (BSG) hefyd. Bydd y grŵp hwn yn gweithio gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru a thimau clinigol yn yr ysbyty i reoli'r gadwyn gyflenwi gwaed pe bai rhybudd yn cael ei actifadu. Gallwch weld Cylch Gorchwyl y Grŵp Prinder Gwaed yma

Cynllun Prinder Celloedd Coch GIG Cymru Cylch gorchwyl Grŵp Prinder Gwaed BHNOG