Pecyn Cymorth Ffactorau Dynol

Mae'r Pecyn Cymorth Ffactorau Dynol yn ganllaw rhyngweithiol a gynhyrchwyd gan Weithgor Ffactorau Dynol y Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol mewn ymateb i'r argymhellion a nodir yn adroddiad blynyddol Peryglon Difrifol Trallwyso Gwaed 2018. Mae'r pecyn cymorth hwn wedi'i gynllunio i gefnogi dull ffactorau dynol o ymchwilio a rheoli digwyddiadau gyda'r nod yn y pen draw o atal niwed i gleifion sy'n cael triniaethau trallwyso ac mae wedi'i anelu at unrhyw staff sydd â chylch gwaith trallwyso.

Gellir defnyddio'r adnoddau hyn yn hyblyg, naill ai fel deunyddiau annibynnol neu fel rhan o becyn integredig a gynlluniwyd o fewn y Bwrdd Iechyd ar gyfer diogelwch trallwyso.

Mae'r pecyn cymorth i'w weld yn y botwm eicon isod.

 

Pecyn Cymorth Ffactorau Dynol