Pwy ydym ni

Cyflwyniad gan y Cadeirydd

Ym mis Mawrth 2020, dechreuodd Dr Brian Tehan, Anesthetydd Ymgynghorol, Uned Gofal Dwys (ICU), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ei swydd fel Cadeirydd y BHNOG

Dr Tehan Dywedodd Dr Tehan "Wrth fynd ati i ymgysylltu â'r holl Fyrddau Iechyd, bydd y BHNOG yn adeiladu ar sylfeini cadarn".

Gyda pherthnasoedd bellach yn cael eu gwneud yn eglur, mae hyd yn oed mwy o ffocws ar Gynllun Iechyd Gwaed Llywodraeth Cymru i archwilio sut y gallwn gydweithio'n effeithiol i sicrhau bod yr amcanion strategol yn cael eu cyflawni. Mae iechyd gwaed yn fater i bawb.

Yn barod rydym yn cryfhau ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ac yn gwella ein cyfathrebu. Gydag amseroedd heriol a diddorol yn debygol yn y dyfodol, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y dyfodol ac rwy'n teimlo'n freintiedig i fod yn gweithio gyda phobl mor frwdfrydig ac ymroddedig

Rhanddeiliaid Allweddol BHNOG

 

Mae aelodaeth o’r BHNOG yn cynnwys cynrychiolaeth o randdeiliaid allweddol ac arbenigwyr pwnc clinigol ychwanegol. Mae ymgysylltu â chyfarfodydd trallwysiad cenedlaethol yn ddwyffordd ac mae gan y BHNOG gysylltiad uniongyrchol â Phrif Swyddog Meddygol Cymru (CMO) a Chyfarwyddwyr Meddygol Cymru.

Mae Tîm Iechyd Gwaed Gwasanaeth Gwaed Cymru yn dîm amlddisgyblaethol sy'n rheoli hwyluso gwaith y BHNOG, a dyma'r pwynt cyfeirio ar gyfer holl gyfathrebiadau cysylltiedig y BHNOG

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

WBS.BloodHealthTeam@wales.nhs.uk