Datganiad preifatrwydd

Hysbysiad preifatrwydd, ymwadiad a Thelerau Defnydd

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi ymrwymo'n gryf i ddiogelu data personol. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio'r canlynol:

  • Pwy ydym ni?
  • Pa wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi?
  • Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth, pam mae ei hangen arnom, a sut y byddwn yn ei defnyddio.
  • Defnyddio prosesau gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio.
  • Defnyddio cwcis a thechnolegau eraill.
  • Pa sail gyfreithiol sydd gennym i brosesu eich data personol.
  • Pa bryd fyddwn ni’n rhannu data personol.
  • Ble rydym yn storio ac yn prosesu data personol.
  • Sut rydym yn diogelu data personol.
  • Am ba mor hir y byddwn yn cadw data personol?
  • Ein diweddaru.
  • Eich hawliau cyfreithiol mewn perthynas â data personol, gan gynnwys eich hawliau i dynnu cydsyniad yn ôl.
  • Sut i gysylltu â ni, gan gynnwys sut i wneud cwyn gydag awdurdod goruchwylio.
  • Sut a phryd rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd.

Rydym yn argymell eich bod chi’n darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn drylwyr. Cysylltwch â ni gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon am ein harferion preifatrwydd. Mae ein manylion cyswllt ar ein gwefan, ac maen nhw wedi eu cynnwys yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn hefyd.

Pwy ydym ni?

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Awdurdod Cyhoeddus, yn Sefydliad Gwaed trwyddedig, ac yn Is-adran Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Rydym yn gweithredu fel Rheolydd Data a Phrosesydd Data o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Rheolydd Data - wrth brosesu eich data i'n galluogi i greu cofnod rhoddwyr, ac i wirio eich cymhwysedd i roi gwaed neu gyfansoddion gwaed.
  • Prosesydd Data – pan fyddwn yn darparu Gwasanaethau o dan berthynas cytundebol â phartneriaid a sefydliadau sydd angen ein gwasanaethau.

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn defnyddio data personol. Mae'r holl gyfeiriadau at 'ni’' yn yr hysbysiad hwn yn cyfeirio at Wasanaeth Gwaed Cymru. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost ar: VelindreInformationGovernance@wales.nhs.uk

Pa wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi?

Pan fyddwn yn sôn am ddata personol neu wybodaeth bersonol, rydym yn cyfeirio at yr wybodaeth y gellir adnabod unigolyn ohoni yn unig. Nid yw'n cynnwys data lle mae'r hunaniaeth wedi'i dileu.

Mae ein gweithgareddau ar draws Cymru yn hanfodol i'n llwyddiant. Rydym yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth i'n helpu gyda'n Gweledigaeth Strategol, sef cael ein cydnabod gan bobl Cymru a'n cyfoedion fel arweinydd mewn gwasanaethau trawsblannu a thrallwyso. Mae'n ein galluogi i gyflawni ein rhwymedigaethau statudol fel Gwasanaeth Gwaed trwyddedig. Mae hyn yn cynnwys y categorïau gwybodaeth canlynol:

  • Data hunaniaeth sy'n cynnwys eich enw a'ch dyddiad geni
  • Data cyswllt (cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn)

I roi hyn yn ei gyd-destun, mae'n cynnwys data personol sydd yn cael eu casglu drwy’r ffyrdd canlynol:

  • Pan fyddwch yn cofrestru fel rhoddwr gyda ni
  • Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cyhoeddiadau neu gylchlythyrau
  • Pan fyddwch yn ffonio, yn ysgrifennu, yn cysylltu â ni ar-lein neu’n anfon neges destun atom neu fel arall, yn rhoi eich data personol i ni

Gall hyn gynnwys gwybodaeth fel eich enw, eich dewisiadau cyfathrebu, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, cyfeiriad IP, rhif ffôn neu rif ffôn symudol.
Efallai y byddwn yn recordio’r galwadau ffôn rydych yn eu gwneud i’n canolfan gyswllt rhoddwyr er mwyn:

  • gwirio am gamgymeriadau
  • rheoli ansawdd
  • atal, canfod, ymchwilio i bryderon
  • hyfforddi, monitro a gwneud gwelliannau i’n gwasanaethau

Os ydych yn gwrthwynebu hyn, bydd angen i chi ddod â'r alwad i ben pan ddywedir wrthych y gall galwadau gael eu recordio. Mae dulliau cyfathrebu amgen ar gael.
Weithiau, efallai na fydd galwadau’n cael eu recordio:

  • os oes nam technegol gyda’r system ffonau
  • os ydy triniwr galwadau yn defnyddio offer sydd ddim yn gadael i alwadau gael eu recordio
  • os ydych chi wedi cael eich trosglwyddo i linell wahanol

Rydym yn casglu data personol sydd yn cael eu diffinio fel data personol o gategori arbennig. Mae'r math hwn o ddata yn cynnwys:

  • Data sy'n ymwneud ag iechyd
  • Gwybodaeth ynghylch cyfeiriadedd rhywiol
  • Tarddiad ethnig neu hil
  • Data genetig neu fiometrig

Mae’n bwysig bod gennym y manylion diweddaraf amdanoch chi, felly cadwch mewn cysylltiad.

Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth, pam mae ei hangen arnom, a sut y byddwn yn ei defnyddio

Pan fyddwch yn cysylltu â ni ynghylch y gwaith rydym yn ei wneud, byddwn yn trin eich data gyda'r gofal mwyaf, ac rydym yn sensitif i'r angen i drin yr holl ddata yn gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd, o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth, ein cylch gwaith i ddarparu gwybodaeth i fodloni gofynion archwilio mewnol ac allanol, a'n rhwymedigaethau cyfreithiol (e.e. atal twyll).

Defnyddio prosesau gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio

Nid yw'r Ymddiriedolaeth yn defnyddio prosesau gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio.

Defnyddio cwcis a thechnolegau eraill

Rydyn ni’n monitro gweithgarwch defnyddwyr er mwyn gwella’r cynnwys ar y safle. Mae Google Analytics (gwefan allanol) yn wasanaeth rhad ac am ddim gan Google (gwefan allanol), sy’n creu ystadegau ynghylch yr ymwelwyr i’r gwefan.

Ymhlith yr wybodaeth sydd yn cael ei chasglu mae tudalennau sy’n cyfeirio / tudalennau gadael, patrymau clicio, y tudalennau mwyaf / lleiaf poblogaidd, hyd sesiynau, nifer yr ymwelwyr, math o borwr, system weithredu, ac ati. Mae gwybodaeth yn cael ei chasglu drwy ddefnyddio cwcis.

Mae'r Hysbysiad hwn yn egluro sut a pham rydym yn defnyddio cwcis ar wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru, a fydd yn eich galluogi i wneud penderfyniad gwybodus mewn perthynas â derbyn, gwrthod neu ddileu unrhyw gwcis a ddefnyddiwn.

Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis, felly rydym yn argymell eich bod chi’n darllen drwy’r wybodaeth isod. Gallai’r polisi cwcis hwn newid ar unrhyw adeg, felly dylech ei wirio’n rheolaidd.

Ffeil fechan o lythrennau a rhifau yw cwci, ac mae’n aml yn cynnwys dynodydd unigryw, dienw. Mae hyn yn golygu y gellir ei ddefnyddio i'ch adnabod chi, heb ddatgelu eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch yn ymweld â gwefan, mae'n gofyn am eich caniatâd i storio cwci yn yr adran cwcis ar eich gyriant caled. Mae cwcis yn cael eu defnyddio’n gyffredin ar y rhyngrwyd i wneud i wefannau weithio, i wneud iddynt weithio'n fwy effeithlon, neu i ddarparu gwybodaeth am eich defnydd o'r wefan i berchennog y safle neu i drydydd partïon eraill. Er enghraifft, os ydych yn ychwanegu eitemau i fasged siopa, mae cwci’n galluogi’r wefan i gofio pa eitemau rydych chi'n eu prynu, neu os ydych chi'n mewngofnodi ar wefan, gall cwci eich adnabod chi nes ymlaen fel nad oes rhaid i chi roi eich cyfrinair i mewn eto.

Sut rydyn ni'n defnyddio cwcis?

Rydym yn defnyddio cwcis i wella'r ffordd mae ein gwefan yn gweithio. Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti hefyd wedi’u gosod gan Google Analytics, i adolygu ymarferoldeb ein gwefan.

Cwcis trydydd parti

Cwci trydydd parti yw un sy'n gysylltiedig â pharth neu wefan wahanol i’r un rydych chi'n ymweld â hi. Er enghraifft, ar y wefan hon, rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti wedi’u hadeiladu gan Google i alluogi dadansoddi’r wefan, ond gan nad yw ein gwefan ym mharth Google, mae hyn yn gwneud eu cwcis nhw yn gwcis "trydydd parti." Bydd cwci Google Analytics yn adnabod ac yn cyfrif nifer y bobl sy'n ymweld â'n gwefan, yn ogystal â darparu gwybodaeth arall fel pa mor hir mae ymwelwyr yn aros, i ble maen nhw’n symud ar ein gwefan, a pha dudalennau sy'n derbyn y nifer fwyaf o ymwelwyr. Ni allwn reoli sut mae cwcis Google yn ymddwyn yn uniongyrchol.

Sut i analluogi cwcis

I newid eich gosodiadau cwcis:

  • Internet Explorer: Dilynwch y ddolen hon http://windows.microsoft.com/en-gb/internet-explorer/delete-manage-cookies#ie=ie-9 (gwefan allanol) i gael cyfarwyddiadau ynghylch sut i analluogi cwcis.
  • Firefox: Dilynwch y ddolen hon http://support.mozilla.org/en-US/kb/enable-and-disable-cookies-website-preferences (gwefan allanol) i gael cyfarwyddiadau ynghylch sut i analluogi cwcis
  • Chrome: Dilynwch y ddolen hon https://support.google.com/chrome/answer/95647?hl=en&ref_topic=14666 (gwefan allanol) i gael cyfarwyddiadau ynghylch sut i analluogi cwcis.

Pa sail gyfreithiol sydd gennym i brosesu eich data personol

Mae gennym sail gyfreithiol i brosesu data personol bob amser, ac mae’r sail gyfreithiol a ddefnyddiwn fel a ganlyn:

  • Lle mae prosesu data yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract y mae’r testun data yn rhan ohono; neu
  • Lle mae’r testun data wedi rhoi caniatâd i brosesu ei ddata personol at un neu fwy o ddibenion penodol; neu
  • Lle mae prosesu yn angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddi; neu
  • Lle mae prosesu data yn angenrheidiol i ddiogelu buddiannau hanfodol y testun data neu berson naturiol arall; neu
  • Lle mae prosesu data yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gynhelir er budd y cyhoedd neu yn unol â'r awdurdod swyddogol sydd wedi’i freinio ynom (neu’r rheolydd); neu
  • Lle mae prosesu data yn angenrheidiol at ddibenion buddiannau cyfreithlon a ddilynir gennym ni neu gan drydydd parti, ac eithrio lle mae’r cyfryw fuddiannau o'r fath wedi’u trechu gan fuddiannau neu hawliau a rhyddidau sylfaenol y testun data sy'n mynnu diogelu data personol

I roi'r defnydd o'r chwe sail gyfreithiol a ddefnyddiwn ar gyfer prosesu data personol mewn cyd-destun, byddwn yn defnyddio'r data a'r wybodaeth bersonol a gasglwn at y dibenion canlynol:

Mae'n rhaid i ni gael rheswm cyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth bersonol. Yn fwyaf cyffredin, byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau statudol fel Gwasanaeth Gwaed trwyddedig drwy ddarparu gwasanaethau trallwyso gwaed i boblogaeth Cymru;
  • i gynnal ymchwil i wella canlyniadau gofal iechyd ar gyfer poblogaeth Cymru;
  • i fonitro pwy rydym yn delio â nhw i ddiogelu yn erbyn twyll, gwyngalchu arian a risgiau eraill;
  • i gynnal a gweinyddu ein cronfa ddata a'n systemau i gyflawni ein rhwymedigaethau statudol o dan ddeddfwriaeth berthnasol.

Ym mhob achos, rydym yn cydbwyso ein hanghenion yn erbyn eich hawliau fel unigolyn, ac yn sicrhau ein bod ni’n defnyddio data personol mewn ffordd neu at ddiben y byddech yn ei ddisgwyl yn unol â'r Polisi hwn, ac sydd ddim yn ymyrryd â'ch preifatrwydd neu gyda’r dewisiadau a fynegwyd yn flaenorol.

Pan fyddwn yn prosesu categorïau arbennig o ddata personol (fel y crybwyllwyd uchod), byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud hynny yn unol ag un o'r seiliau cyfreithiol ychwanegol ar gyfer prosesu, er enghraifft, lle mae gennym eich caniatâd penodol neu ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at y dibenion y gwnaethom ei chasglu ar eu cyfer, oni bai ein bod o'r farn bod angen i ni ei defnyddio am reswm arall, a bod y rheswm hwnnw'n gydnaws â'r pwrpas gwreiddiol. Cedwir gwybodaeth dim ond cyhyd â bod rheswm dilys dros wneud hynny; mae gwybodaeth nad oes ei hangen rhagor yn cael ei dinistrio yn y fath fodd fel na ellir ei chael yn ôl. Os hoffech gael esboniad ar sut mae'r prosesu at y diben newydd yn gydnaws â'r diben gwreiddiol, cysylltwch â ni.

Pa bryd fyddwn ni’n rhannu data personol

Datgelu Gwybodaeth at ddibenion cyfreithiol neu reoleiddiol.

Efallai y bydd angen i ni ddatgelu eich gwybodaeth i drydydd parti fel rhan o waith parhaus i reoli rhaglenni ac archwilio.

Yn ogystal, fel rhan o'n cylch gwaith i gynnal diwydrwydd dyladwy, efallai y bydd angen i ni ryddhau gwybodaeth hefyd i ddatblygu gwiriadau llywodraethu ar gyfer gofynion penodol, rhaglenni, partïon (neu brosiectau penodol) eraill. Byddwn yn cynnal y broses hon yn gyfreithlon, yn gymesur ac yn ddiogel).

Mae trydydd partïon yn cynnwys:

  • Cynghorwyr ac ymgynghorwyr allanol sydd â chysylltiad uniongyrchol â chyflawni’r rhaglen/prosiect (noder bod pob cynghorydd/ymgynghorydd wedi'u rhwymo i ofynion cyfrinachedd yn eu contractau);
  • Sefydliadau sy'n bartneriaid gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru, er enghraifft Llywodraeth Cymru neu bartneriaid ymchwil penodol ar gyfer prosiectau ymchwil.
  • Ein cynghorwyr proffesiynol e.e. cyfreithwyr, bancwyr, cyfrifyddion
  • Darparwyr gwasanaethau trydydd parti sy'n darparu gwasanaethau gweinyddol a chymorth i ni
  • CThEM

Byddwn yn sicrhau, os bydd angen rhannu gwybodaeth, y bydd yn cael ei rhannu'n ddiogel, ac y byddwch yn cael gwybod ein bod ni wedi ei rhannu, gyda phwy rydym wedi’i rhannu, a sut rydym wedi’i rhannu.

Ble rydym yn storio ac yn prosesu data personol?

Mae data personol yn cael ei storio yn systemau electronig GIG Cymru. Rydym yn cynnal adolygiadau diogelwch rheolaidd o'n holl blatfformau, ac yn cynnal asesiadau risg fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 35 GDPR yr UE a Phennod 2 Deddf Diogelu Data 2018 (GDPR y DU) i gydymffurfio â'n dyletswydd fel Rheolwr Data. Cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data i gael rhagor o wybodaeth os hoffech ddeall sut mae eich data yn cael eu prosesu.

Sut rydym yn diogelu data personol?

Mae gennym fesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei cholli’n ddamweiniol, rhag cael ei defnyddio na’i chyrchu mewn modd heb ei awdurdodi, neu rhag cael ei defnyddio neu ei datgelu mewn ffordd arall.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn defnyddio technoleg ddiogel wedi'i hamgryptio i ddiogelu'r holl wybodaeth bersonol sydd yn cael ei storio gennym ni. Rydym yn gweithredu polisïau cyfoes sydd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd ar gyfer Diogelu Data, Llywodraethu Gwybodaeth, Polisi Cyfrineiriau, Diogelwch Gwybodaeth a Pharhad Busnes (gan gynnwys Asesiadau Risg drwy'r broses Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) ac asesiadau risg unigol) i gefnogi ein prosesau busnes ac i sicrhau bod yr holl aelodau o staff yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch data.

Caniateir mynediad at wybodaeth ar sail yr angen i wybod.

Am ba mor hir y byddwn yn cadw data personol?

Ar ôl ichi roi gwaed, mae’r Rheoliadau Diogelwch ac Ansawdd Gwaed yn mynnu bod Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cadw’ch cofnod am o leiaf 30 mlynedd.

Byddwn ond yn cadw ac yn prosesu data personol cyhyd â bod gofyniad cytundebol neu ofyniad busnes i wneud hynny neu fel arall, os oes rhwymedigaeth arnom i gadw'r un wybodaeth o dan unrhyw ofyniad cyfreithiol, rheoleiddiol neu gytundebol. Unwaith y bydd y gofyniad wedi dod i ben, bydd yr wybodaeth yn cael ei dileu'n ddiogel oddi ar ein systemau yn y fath fodd fel bod yr wybodaeth sydd yn cael ei dileu yn cael ei gwneud yn unol â'r rheoliadau diogelwch cyfredol

Ein diweddaru

Fel rhan o'n cyfrifoldeb i sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym amdanoch yn gyfredol, rydym yn dibynnu arnoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni. Rydym yn gofyn i chi roi gwybod i ni pan fydd unrhyw un o'ch manylion yn newid, er mwyn i ni allu diweddaru ein cofnodion yn unol â hynny.

Eich hawliau cyfreithiol mewn perthynas â data personol, gan gynnwys eich hawliau i dynnu cydsyniad yn ôl.

Fel testun data, mae gennych hawliau mewn perthynas â'ch data personol:

  • Mae gennych yr hawl i gael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol
  • Mae gennych yr hawl i gael gwybodaeth anghywir a gedwir amdanoch wedi ei chywiro
  • Mae gennych yr hawl i gael gwybodaeth nad ydych yn dymuno i ni ei chadw mwyach wedi ei dileu (sydd yn cael ei alw hefyd yn hawl i gael eich anghofio)
  • Mae gennych yr hawl i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth
  • Mae gennych yr hawl i gludadwyedd data - i'ch gwybodaeth bersonol gael ei chludo mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin, ac y gellir ei hadnabod
  • Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol
  • Mae gennych yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad yn seiliedig ar brosesu awtomataidd yn unig, gan gynnwys proffilio, sy'n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol yn ymwneud â chi neu sy’n effeithio'n sylweddol arnoch.

Mae gennych yr hawl hefyd i wneud Cais am Fynediad at ddata Gan y Testun. Fel rhan o'r broses hon byddwch yn gallu sicrhau:

  • P'un a yw eich data wedi cael eu prosesu neu beidio, ac os ydyw, pam
  • Categorïau y data personol dan sylw
  • Ffynhonnell y data os nad ydych chi wedi darparu'r data gwreiddiol
  • I bwy y gellir datgelu eich data, gan gynnwys y tu allan i'r EEA, a'r mesurau diogelu sy'n berthnasol i drosglwyddiadau o'r fath.

Rydym yn cadw'r hawl i ddilysu eich hunaniaeth cyn rhyddhau gwybodaeth.

Ni fyddwn yn codi unrhyw daliadau am geisiadau o’r fath, oni bai bod y ceisiadau’n cael eu gwneud dro ar ôl tro ac yr ystyrir eu bod yn ormod. Byddwn yn ymateb i’ch cais o fewn 1 mis o’r dyddiad cyflwyno.

Os ydych chi wedi rhoi caniatâd i Wasanaeth Gwaed Cymru brosesu unrhyw ran o'ch data, mae gennych yr hawl hefyd i dynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl, oni bai bod rhwymedigaeth gytundebol neu gyfreithiol arnom i gadw data.

Mewn achosion lle nad oes angen i ni gadw data am resymau cytundebol neu gyfreithiol, byddwn yn dileu’r data cyn gynted â phosibl, a chyn pen 28 mis o ddyddiad eich cais.

Sut i gysylltu â ni, gan gynnwys sut i wneud cwyn gydag awdurdod goruchwylio.

Pe bai gennych unrhyw wrthwynebiadau neu ymholiadau yn ymwneud â sut mae eich data personol yn cael eu prosesu gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data yn: Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Uned 2, Cwrt Charnwood, Parc Nantgarw, Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QZ

E-bost: VelindreInformationGovernance@wales.nhs.uk

I gael cyngor annibynnol am faterion diogelu data, preifatrwydd a rhannu data, neu os fyddwch chi byth yn anfodlon â'r ffordd y mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi trin neu rannu eich data personol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru, Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH
Rhif ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.org.uk

Manylion Prif Swyddfa Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, Lloegr, SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113 neu 01625 545745
Ffacs: 01625 524510
Gwefan: www.ico.gov.uk

Adolygiad o'r Hysbysiad Preifatrwydd

Rydym yn adolygu ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn rheolaidd, a byddwn yn postio diweddariadau ar ein dogfennau a'n tudalen we. Cafodd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ei adolygu a'i ddiwygio ddiwethaf ar 8 Medi 2023.

Ymwadiad

Rydym yn cymryd gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Fodd bynnag, mae cynnwys yn cael ei ddarparu er gwybodaeth gyffredinol yn unig ac wrth ei ddefnyddio, fe fyddwch chi’n derbyn y risg sydd ynghlwm wrth wneud hynny. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw ddifrod na cholled yn sgil gweithred neu anwaith a wneir yn dilyn defnyddio’r wybodaeth ar y wefan hon.

Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r wefan fel sy'n briodol o bryd i'w gilydd.

Diogelu rhag feirysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar gyfer firysau. Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn rhedeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunyddiau a lwythwyd i lawr o'r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu'ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy'n deillio o'r wefan hon.

Gwefannau allanol/Cysylltiedig

Nid yw Gwasanaeth Gwaed Cymru yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â’r cynnwys ar y gwefannau hynny, nac am unrhyw ganlyniadau a ddaw yn sgil dilyn unrhyw gyngor ar y gwefannau hynny.

Ni ddylid camgymryd rhestru am gymeradwyaeth o unrhyw fath.

Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio ar bob adeg, ac nid oes unrhyw reolaeth gennym dros argaeledd y tudalennau y mae dolenni iddynt, na thros unrhyw newidiadau i gyfeiriadau’r tudalennau hynny.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cadw'r hawl i wrthod dolenni neu i dynnu dolenni i unrhyw wefan.