Platennau

 Y Ffrwd Waith

 Mae Defnydd Priodol o Blatennau yn cwmpasu dau nod strategol Cynllun Iechyd Gwaed GIG Cymru: 

  •  Defnyddio tystiolaeth a data i lywio cynllunio, gwella arfer a lleihau amrywioldeb 
  •  Rhoi diogelwch ac ansawdd wrth wraidd gofal gan leihau defnydd amhriodol a chefnogi arloesedd

Nod y ffrwd waith platennau yw sicrhau cynaliadwyedd y gadwyn gyflenwi platennau drwy fynd i'r afael â'r cydbwysedd rhwng y cyflenwad a'r galw am blatennau, gyda phwyslais ar ddefnydd priodol a lleihau gwastraff. Mae adolygu addysg, archwilio a pherfformiad yn erbyn dangosyddion y cytunwyd arnynt yn genedlaethol yn allweddol i sicrhau bod yr adnodd cyfyngedig hwn ar gael i'r eithaf.

Mae'r ffrwd waith platennau wedi'i nodi fel ffrwd waith allweddol ar gyfer Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol ac fe'i harweinir gan Dr Rhian Fuge, Haematolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.