Cydsyniad

'Mae'n egwyddor a dderbynnir y dylai claf roi cydsyniad dilys cyn derbyn triniaeth feddygol, ac mae hyn yn cynnwys pan fyddant yn derbyn trallwysiad gwaed a chyfansoddion gwaed (fel plasma a phlatennau ffres wedi'u rhewi)' (SaBTO, 2020).

Fe wnaeth SaBTO, Pwyllgor Cynghori'r DU ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau, argymhellion am gael Cydsyniad Cleifion ar gyfer Trallwyso Gwaed yn 2011, a chafodd y rhain eu diwygio a'u cadarnhau eto yn 2020. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma i'w weld.

Mewn ymateb i argymhellion diweddaraf 2020, datblygwyd adnoddau gan Rwydwaith Trallwyso Gwaed y DU ac Iwerddon, y gellir eu gweld ar wefan transfusion guidelines (Saesneg yn unig):

Mae gan Gofnod Trallwyso Cymru Gyfan adran benodol sy'n ymwneud â chydsyniad i drallwyso, ac sy'n cwmpasu elfennau allweddol argymhellion SaBTO cliciwch yma i'w weld.

Gallwch weld copi electronig o’r daflen wybodaeth i gleifion o’r enw 'Derbyn Trallwysiad Gwaed' ymaCysylltwch â thîm trallwyso ysbyty i gael gwybodaeth am sut i gael gafael ar gopïau wedi’u hargraffu o’r daflen.